Post advertisement

Bob Morris Jones bmj at aber.ac.uk
Fri Mar 26 17:29:22 UTC 1999


An English version of this post advertisement follows this Welsh version.

Swyddogion Ymchwil ar gyfer Prosiect ESRC
=========================================

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer dwy swydd ar brosiect ymchwil 
sy’n paratoi cronfa ddata electronig o sgyrsiau naturiol plant 
ifainc sy’n siarad Cymraeg. Noddir y prosiect gan y Cyngor 
Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a fe’i 
cyfarwyddir gan Mr Bob Morris Jones, Adran Addysg, Prifysgol 
Cymru Aberystwyth. Mi fydd y prosiect yn rhedeg o 1af 
Gorffennaf 1999 hyd at 30ain Mehefin 2000. Penodir ar bwynt 4 
y raddfa gyflog RA1B, £15,735. Mi fydd yr ymgeiswyr 
llwyddiannus yn gyfrifol am drawsgrifio recordiadau sain o 
sgyrsiau naturiol plant ifainc gan ddefnyddio confensiynau 
safonol, ac am baratoi lecsicon ar sail yr holl ffurfiau a 
ymddengys yn y gronfa ddata. Fe fydd yn rhaid i’r ymgeiswyr fod 
yn rhugl yn naill ai Cymraeg llafar y gogledd neu Gymraeg llafar y 
de. Fe fyddai’n fantais bendant pe byddai ganddynt hyfforddiant 
mewn Ieithyddiaeth, ond mi fyddai cymwysterau yn y Gymraeg 
neu iaith fodern yn berthnasol. Mae’r gwaith yn gofyn am sgiliau 
cyfrifiadurol o ran defnyddio cyfrifiadur personol, trafod a 
golygu ffeiliau testun plaen, rhedeg pecynnau, a defnyddio e-bost 
a’r We. Fe fydd hyfforddiant cychwynnol sy’n cyflwyno’r system 
drawsgrifio a’r gwaith cyfrifiadurol. Am fanylion pellach, 
cysylltwch â’r Swyddfa Personel, Prifysgol Cymru, 9 Maes 
Lowri, Abersytwyth, Ceredigion, 01970 621832 (ffacs 622975), neu 
http://www.aber.ac.uk/~bmj/abercld/cyntaf.html. Anfonwch 
geisiadau gyda CV llawn a dau eirda i’r Swyddfa Personel, 
Prifysgol Cymru, 9 Maes Lowri, Abersytwyth, Ceredigion erbyn 
y dyddiad cau, 30ain Ebrill.

Ceir fersiwn o'r hybyseb ganlynol yn y Gymraeg uchod.

Research Officers for an ESRC project
=====================================

Applications are invited for two posts on a research project 
which aims to create an electronic database of the spontaneous 
conversations of young children speaking Welsh. The project is 
funded by the Economic and Social Research Council (ESRC), 
and is directed by Mr Bob Morris Jones, Education Department, 
University of Wales Aberystwyth. The project will run from 1st 
July 1999 to 30th June 2000. The appointments will be made on 
point 4 of the salary scale RA1B, £15,735. The postholders will 
be responsible for transcribing audio recordings of the 
spontaneous conversations of young children using standard 
conventions, and for preparing a lexicon of all the word-forms 
which occur in the database. The applicants must be fluent in 
everyday colloquial Welsh either of a northern or southern 
dialect. Training in Linguistics would be a definite advantage, but 
qualifications in Welsh or a modern language would also be 
relevant. The work requires computer skills: using a PC, 
organizing and editing plain text files, running computer 
packages, and using e-mail and the Web. There will be 
preliminary training in the use of the transcription system and the 
computer work. For further details, contact the Personnel Office,
University of Wales, 9 Laura Place, Abersytwyth, Ceredigion, 
01970 621832 (fax 622975), or 
http://www.aber.ac.uk/~bmj/abercld/cyntaf.html. Send 
applications with a full CV and two references to the Personnel 
Office,University of Wales, 9 Laura Place, Abersytwyth, Ceredigion, 
Wales by the closing date, 30th April.

Bob Morris Jones,                        Bob Morris Jones,
Department of Education,                 Adran Addysg,
University of Wales,                     Prifysgol Cymru,
ABERYSTWYTH,                             Aberystwyth
Ceredigion,                              Ceredigion
Wales  SY23 2AX.                         Cymru SY23 2AX
Phone (01970) 622103                     Ffôn (01970) 622103
Fax (01970) 622258                       Ffax (01970) 622258
http://www.aber.ac.uk/~bmj/index.html    http://www.aber.ac.uk/~bmj/index.html



More information about the Info-childes mailing list