Only Basque Language Daily Newspaper Closed by Spanish Judiciary

Alkistis Fleischer fleischa at georgetown.edu
Thu Mar 13 23:30:57 UTC 2003


----- Original Message -----
From: "George Jones" <zyw at aber.ac.uk>
To: <zyw at aber.ac.uk>
Sent: Monday, March 10, 2003 10:11 AM
Subject: Bwletin Mercator Cyfryngau / Mercator Media Bulletin


> Only Basque Language Daily Newspaper Closed by Spanish Judiciary
> (Fersiwn Gymraeg isod)
>
> Euskaldunon Egunkaria, the only Basque language newspaper in the Basque
> Country was closed on 20th February by order of the National Audience, a
> special court in Madrid which only takes cases related to terrorism or
> serious crimes. According to this court, the newspaper 'belongs to or
> collaborates with ETA', the armed organisation which seeks a Basque
> independent State. Moreover, judge Juan del Olmo considers that ETA
> finances the newspaper 'in connection with its terrorist strategy'.
>
> The operation was carried out by the paramilitary corps Civil Guard,
> which searched the offices of Euskaldunon Egunkaria in Andoain,
> Pamplona, Bilbao and Vitoria, the Basque political capital. The only
> office they could not search was the one in Baiona, the part of the
> Basque Country under French administration. All those offices searched
> where shut down and ten people, including the director Martxelo
> Otamendi, were arrested and transferred to Madrid.
>
> Euskaldunon Egunkaria was founded in 1990 after 150 million pesetas
> (900.000 euro) were raised in a popular campaign. Since then, it has
> managed to sell 13.000 copies each week from Tuesday to Sunday and it is
> believed that around 50.000 people read it regularly. It is now funded
> by the Basque government and the fact that it is the only Basque
> language newspaper in the world means that many schools and language
> academies use it with the students as a learning tool.
>
> Apart from entering the four offices of the newspaper, the Civil Guard
> also searched other places, such as the headquarters of two Basque
> magazines: the weekly Argia and the linguistic publication Jakin. From
> both places, they took some documents and software. Finally, the
> federation of Basque private schools was also searched because one of
> the arrested journalists also works there as communications coordinator.
>
>
> Nevertheless, the journalists of the newspaper managed to use their only
> operational office in Baiona and, thanks to the cooperation of other
> Basque media, launched a very short Basque newspaper, called Egunero.
> With only 16 pages, the workers want to issue it every day until they
> can recover all their offices or the case is cleared in court.
>
> After this police operation, many institutions and organisations in the
> Basque Country expressed their sorrow. The counsellor of Culture of the
> Basque government, Miren Azkarate, gave an official statement in which
> she expressed the concern of the autonomous administration and urged the
> case to be 'urgently cleared' so that 'the Basque language would not be
> involved' in these kind of political disputes.
>
> Also in Catalonia there was deep concern over this closure. All
> newspapers written in Catalan signed a document in which they condemn
> the police operation and ask for Egunkaria to be reopened as soon as
> possible. Also several associations of journalists issued statements in
> the same line.
>
> Mercator Media gratefully acknowledges Eurolang, the European news
> Agency for Minority Languages as the source of this story.  Updates to
> this story as well as many other items of interest and relevance to
> minority languages can be found at www.eurolang.net .
>
>
> Yr Unig Bapur Dyddiol Basgeg wedi'i gau gan Farnwriaeth Sbaen
>
> Caewyd Euskaldunon Egunkaria, yr unig bapur newydd Basgeg yng Ngwlad y
> Basg ar yr 20fed o Chwefror drwy orchymyn yr Audiencia Nacional, llys
> arbennig ym Madrid sy'n ymdrin a therfysgaeth a throseddau difrifol yn
> unig.  Yn ol y llys hwn, mae Euskaldunon Egunkaria yn perthn i neu yn
> cydweithio ag ETA, y grwp arfog sy'n ceisio gwladwriaeth annibynnol
> Fasgaidd.  Ar ben hynny, roedd y Barnwr Juan del Olmo o'r farn bod ETA
> yn ariannu'r papur ' mewn perthynas a'i strategaeth derfygol'.
>
> Gwnaethpwyd y cyrch gan y Guardia Civil, a archwiliodd swyddfeydd y
> papur yn Andoain, Pamplona, Bilbao a Vitoria, prifddinas wleidyddol
> Gwlad y Basg.  Yr unig swyddfa na allasant ei harchwilio oedd yr un yn
> Baiona, sydd yn y rhan o Wlad y Basg sy'n dod o dan weinyddiaeth
> Ffrainc.  Caewyd yr holl swyddfeydd a archwiliwyd ac arestiwyd deg o
> bobl, gan gynnwys y golygydd Martxelo Otamendi a mynd a nhw i Madrid.
>
> Sefydlwyd Egunkaria ym 1990 ar ol i 150 miliwn peseta (900,000 ewro)
> gael eu codi drwy ymgyrch boblogaidd.  Ers hynny, y mae wedi llwyddo i
> werthu 13,000 copi bob wythnos o ddydd Mawrth hyd ddydd Sul chredir bod
> tua 50,000 o bobl yn ei ddarllen yn rheolaidd.  Y mae erbyn hyn yn
> derbyn cymorth ariannol gan lywodraeth Gwlad y Basg ac mae'r ffaith mai
> hwn yr'w unig bapur newydd basgeg yn golygu bod llawer o ysgolion a
> cholegau iaith yn ei ddefnyddio gyda'u myfyrwyr fel deunydd dysgu.
>
> Ar wahan i fynd i bedair swyddfa'r papur newydd, archwiliodd y Guardia
> Civil lefydd eraill, megis pencadlysoedd dau gylchgrawn Basgeg: yr
> wythnosolyn Argia a'r cyhoeddiad iaith Jakin.  Aethant a rhai dogfennau
> a meddalwedd o'r ddau le hyn.  Yn olaf, archwiliwyd ffederasiwn yr
> Ikastolas (ysgolion Basgeg preifat) gan fod un o'r newyddiadurwyr a
> arestiwyd hefyd yn gweithio yno fel cydlynydd cyfathrebu.
>
> Fodd bynnag, llwyddodd newyddiadurwyr y papur i ddefnyddio'r unig
> swyddfa oedd yn dal i redeg yn baiona, a, diolch i gydweithio a
> chyfryngau Basgeg eraill lansiasant bapur newydd cryno iawn yn yr iaith
> o'r enw Egunero.  Mae'n cynnwys ond 16 tudalen ac mae'r gweithwyr am ei
> gyhoeddi bob dydd hyd nes y cant eu swyddfeydd yn ol neu y clirir yr
> achos yn y llys.
>
> Ar ol y gweithrediad yma gan yr heddlu, mynegodd llawer o sefydliadau a
> mudiadau yng Ngwlad y Basg eu tristwch.  Rhoddodd y gweinidog diwylliant
> yn llywodraeth Gwlad y Basg, Miren Azkarate, ddatganiad swyddogol, lle
> mynegodd bryder y weinyddiaeth awtonomaidd a gofyn am i'r achos gael ei
> glirio fel mater o frys fel na fyddai'r iaith fasgeg ynghlwm mewn
> anghydfodau o'r fath.
>
> Yng Nghatalonia hefyd roedd pryder mawr am y gweithrediadau hyn.
> Llofnododd yr holl bapurau newydd Catalaneg ddogfen yn collfarnu
> gweithgareddau'r heddlu ac yn gofyn i Egunkaria gael ei ailagor cyn
> gynted y gellir.  Hefyd, gwnaethpwyd datganiadau tebyg gan sawl
> cymdeithas newyddiadurwyr.
>
> Mae Mercator Cyfryngau yn cydnabod gyda diolchgarwch Eurolang, yr
> Asiantaeth Newyddion Ewropeaidd i Ieithoedd Lleiafrifol, fel ffynhonnel
> y stori hon.  Ceir newyddion diweddarach am y mater hwn, yn ogystal a
> llawer o eitemau o ddiddordeb a pherthnasedd i ieithoedd lleiafrifol yn
> www.eurolang.net .
>
>



More information about the Lgpolicy-list mailing list