Vacancies on Welsh Dictionary

Geiriadur Prifysgol Cymru ach at ABER.AC.UK
Mon Jan 14 15:21:30 UTC 2008


[English below]

TAIR SWYDD WAG YN Y GEIRIADUR

Mae Prifysgol Cymru yn chwilio am ddau Olygydd Cynorthwyol a Swyddog 
Technegol i ymuno â thîm sy'n ailolygu Geiriadur Prifysgol Cymru (y 
geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol). Mae'r ddwy swydd gyntaf ar 
raddfa o 25,800 i 30,000 o bunnoedd (dan adolygiad) a'r ail ar raddfa 
o 21,600 i 25,100 (dan adolygiad).

Ceir manylion llawn yn www.cymru.ac.uk/geiriadur/gpc_swyd.htm

Daw'r penodiadau hyn yn sgil ailstrwythuro staffio'r prosiect yn 
dilyn ymddeoliad y ddau Gyd-Olygydd, Mr Gareth Bevan a Mr Patrick 
Donovan. Dyrchafwyd Mr Andrew Hawke yn Olygydd Rheolaethol a 
dyrchafwyd rhai eraill o'r staff hefyd.

======================

[English]

THREE VACANCIES ON WELSH DICTIONARY

The University of Wales is seeking to appoint two Assistant Editors 
and a Technical Officer to join the team re-editing Geiriadur 
Prifysgol Cymru (the standard historical dictionary of Welsh). The 
first two positions are on a scale from 25,800 pounds to 30,000 
(under review) and the second on a scale from 21,600 pounds to 25,100 
(under review). The closing date is 25 January 2008.

Full details are available at www.wales.ac.uk/dictionary/gpc_swyd.htm

These appointments are a consequence of restructuring the project 
staffing following the retirement of the two Co-Editors, Mr Gareth 
Bevan and Mr Patrick Donovan. Mr Andrew Hawke has been promoted to 
the position of Managing Editor and other members of the staff have 
also been promoted.



-- 
Geiriadur Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH
University of Wales Dictionary of the Welsh Language, National 
Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, Wales, UK
E-bost/e-mail: geiriadur at cymru.ac.uk | ffôn/tel: +44 (0)1970 639094 | 
ffacs/fax: +44 (0)1970 631039)
Gwefan/Web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol 
Cymru / This message does not necessarily reflect the opinion of the 
University of Wales  



More information about the Celtling mailing list